Cynllunio

Mae’r broses gynllunio ar gyfer prosiectau ynni mawr a chymhleth yn hir a thrylwyr, sy’n cynnwys caniatâd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, yn ogystal â mewnbwn gan awdurdodau lleol a chyngor arbenigol gan asiantaethau statudol.

Ystyrir bod cynlluniau ynni o'r maint hwn yn Brosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol ac fe'u pennir drwy'r broses Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) a reolir gan yr Arolygiaeth Gynllunio. Bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan Ysgrifennydd Gwladol y DU, yn seiliedig ar unrhyw argymhellion a wneir gan yr Arolygydd Cynllunio.

Mae angen Trwydded Forol ar ddatblygiadau yn y môr hefyd. Yn nyfroedd Cymru, mae hyn yn cael ei ganiatáu gan gorff Llywodraeth Cymru – Cyfoeth Naturiol Cymru.

Y Broses Gynllunio

Mae datblygu prosiect o'r maint hwn yn gostus ac yn cymryd amser ac mae angen edrych yn fanwl ar nifer o ffactorau. Mae’n rhaid inni ystyried yr effeithiau ecolegol yn erbyn budd cynhyrchu ynni glân, pa dechnolegau sydd orau a chynllun y fferm wynt, sut y byddwn yn trosglwyddo’r trydan a gynhyrchir i’r tir, o ble a sut y byddwn yn caffael yr offer a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnom, ar yr un pryd â cheisio lliniaru unrhyw effeithiau y gall y prosiect eu cael ar yr amgylchedd a rhanddeiliaid tra'n cadw costau mor isel â phosibl.

Mae angen i ni ddangos sut rydym wedi archwilio'r ffactorau hyn a pha gasgliadau rydym wedi dod iddynt yn ein ceisiadau cynllunio ac mae'r broses gynllunio wedi'i dylunio i archwilio ein gwaith yn drylwyr.

Wrth galon y broses gynllunio mae ymgynghori – gydag arbenigwyr pwnc, gydag aelodau o’r cyhoedd, cynrychiolwyr etholedig, a chydag asiantaethau statudol. Gall pawb ddweud eu dweud ar y prosiect drwy'r broses DCO.

Rhennir y broses gynllunio yn pum adran:

one

Cyn-ymgeisio
Cyn cyflwyno cais datblygu, mae gennym ddyletswydd statudol i ymgynghori ar ein cynigion. Byddwn yn ymgynghori ar effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd posibl y cynnig gyda chyrff statudol, awdurdodau lleol, y cymunedau lleol a rhanddeiliaid sy'n debygol o gael eu heffeithio. Mae ymgynghori’n gynnar ac mor eang â phosibl â chymunedau, busnesau a grwpiau hefyd yn rhoi’r cyfle gorau posibl i ni lunio prosiect sy’n lleihau unrhyw effaith ar randdeiliaid a defnyddwyr eraill yn ogystal â chyflawni prosiect sy’n adlewyrchu blaenoriaethau lleol ac yn darparu buddion lleol.

Y cam hwn yw'r amser gorau i ddylanwadu ar brosiect, felly cysylltwch â ni a chymerwch ran.

Rynym nawr wedi cyflwyno fersiwn gyntaf y Ddogfen Rhaglen i'r Arolygiaeth Gynllinio. Mae'r ddogfen honyn nodi'r prif gamau yr ydym bwriadu cymryd a gellir ei gweld yma: Project Programme. 

Wrth i amserlen y prosiect fynd yn ei blaen, bydd y ddogfen hon yn cael ei diweddaru.  

Cyflwyniad Adroddiad Cwmpasu

Rydyn ni wedi cyflwyno ein Hadroddiad Cwmpasu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol i’r Arolygiaeth Gynllunio, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Sefydliad Rheoli Morol.

Mae’r cyflwyniad yn gwneud cais ffurfiol am farn rhanddeiliaid ynghylch yr amlinelliad o’r pynciau a’r methodolegau y bwriedir eu cynnwys yn yr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol. 

Mae'r dogfennau hyn i'w gweld yma: wefan yr Arolygiaeth Gynllunio.

two

Cais a derbyn
Yn dilyn ymgynghoriad, ac asesiadau amgylcheddol ac arolygon, cyflwynir y cais yn ffurfiol. Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio, ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, yn penderfynu o fewn 28 diwrnod a yw’n bodloni’r safonau gofynnol i’w hystyried. Os cânt eu derbyn, bydd yr holl ddogfennau cynllunio ar gael i'r cyhoedd.

three

Cyn-archwilio
Ar y cam hwn, gall aelodau'r cyhoedd gofrestru fel Parti â Diddordeb a chyflwyno eu barn yn ysgrifenedig. Penodir Awdurdod Archwilio a gwahoddir pawb sydd â diddordeb i fynychu cyfarfod rhagarweiniol, a gaiff ei gynnal a’i gadeirio gan yr Awdurdod Archwilio. Nid oes amserlen statudol ar gyfer cam hwn y broses, er ei fod fel arfer yn cymryd tua thri mis. Cyhoeddir amserlen yr archwiliadau. Bydd Partïon â Diddordeb yn cael gwybod am y weithdrefn.

four

Archwilio
Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn archwilio’r cais o fewn chwe mis. Yn ystod y cyfnod hwn, efallai y gwahoddir Partïon â Diddordeb sydd wedi cofrestru i ddarparu rhagor o fanylion am eu barn yn ysgrifenedig.

five

Argymhelliad a Phenderfyniad
O fewn tri mis, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn llunio adroddiad ac yn gwneud argymhellion ar y cais. Ystyrir y rhain gan yr Ysgrifennydd Gwladol, sydd â thri mis arall i ystyried y cais cyn cyhoeddi penderfyniad ynghylch a ddylid rhoi neu wrthod caniatâd datblygu.