Cyflwyno Adroddiad Cwmpasu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol ar gyfer Fferm Wynt Alltraeth Gwynt Glas

26 June 2026
« Yn ôl i newyddion
Image

Mae Fferm Wynt Alltraeth Gwynt Glas, sef prosiect arloesol yn y Môr Celtaidd, wedi cyflwyno ei Hadroddiad Cwmpasu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol i’r Arolygiaeth Gynllunio, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Sefydliad Rheoli Morol.

Mae’r cyflwyniad yn gwneud cais ffurfiol am farn rhanddeiliaid ynghylch yr amlinelliad o’r pynciau a’r methodolegau y bwriedir eu cynnwys yn yr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol.  Dyma garreg filltir bwysig o ran datblygu’r prosiect a dechrau ymgysylltu’n ffurfiol, gan wahodd adborth amhrisiadwy i helpu i siapio’r dyluniad a’r asesiad.

Mae Gwynt Glas yn cynrychioli cyfle buddsoddi trawsnewidiol i Gymru. Oherwydd ei botensial i gynhyrchu capasiti cynhyrchu gosodedig o hyd at 1.5GW, ystyrir ei fod yn Brosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol. Mae angen Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol er mwyn i’r prosiect gael ei benderfynu drwy’r broses Gorchymyn Cydsyniad Datblygu. Bydd Gwynt Glas yn gwneud cais am Drwydded Forol hefyd.

Dywedodd Mark Hazelton, Cyfarwyddwr Prosiect Gwynt Glas: “Mae cyflwyno ein Hadroddiad Cwmpasu yn brawf o waith caled ac ymroddiad pob aelod o dîm Gwynt Glas. Mae’n tanlinellu ein hymrwymiad i gyflwyno prosiect o’r radd flaenaf a fydd yn sicrhau diogelwch ynni, yn creu swyddi, ac yn cryfhau safle'r DU fel arweinydd byd-eang ym maes gwynt ar y môr. Edrychwn ymlaen hefyd at ymgysylltu â chymunedau lleol wrth i ni ddatblygu ein cynigion, gan helpu i sicrhau bod y prosiect yn mynd rhagddo’n llwyddiannus ac yn sicrhau buddion parhaol.”

Disgwylir i ddigwyddiadau ymgynghori â’r cyhoedd ynghylch y cynigion ar gyfer Gwynt Glas gael eu cynnal yn ystod yr Hydref 2026.

Gallwch weld yr Adroddiad Cwmpasu Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol ar wefan yr Arolygiaeth Gynllunio.

I gael rhagor o wybodaeth am Gwynt Glas, ewch i: www.gwyntglas.com/cym